MEW 02

Gwneud i'r economi weithio i'r  rheini sydd ag incwm isel
Making the economy work for people on low incomes
Ymateb gan: Dinas a Sir Abertawe
Response from: City and County of Swansea

 

 

1.   Disgrifiad byr o rôl y sefydliad

 

1.1 Mae awdurdod lleol Dinas a Sir Abertawe wedi llunio'r ymateb hwn i'r ymchwiliad drwy ymgynghori â'i adrannau Adfywio Economaidd a Thlodi a'i Atal.

 

1.2 Rydym yn gwybod bod anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe gyda chyfraddau amddifadedd incwm yn amrywio'n sylweddol. Mae rhai pobl yn gyfoethog iawn ac mae rhai'n ddifreintiedig iawn.  Mae mwy o swyddi tâl-tlodi yn Abertawe (fel cyfran o gyfanswm y swyddi) na'r cyfartaledd cenedlaethol. Y ffigur yw 27.6% yn Nwyrain Abertawe (Cymru 25.6%; y DU 22.7%).

 

Sut gall strategaeth economi a chynllun chyflogadwyedd Llywodraeth Cymru helpu i:

 

2.   Greu twf economaidd mwy cynhwysol sy'n fanteisiol i bobl a lleoedd yn gyfartal ledled Cymru;

 

2.1 Gall rhwydweithio busnes gwell ar draws yr holl sectorau cyflogaeth sy'n nodi cyfleoedd twf busnes roi gwybod ymlaen llaw i asiantaethau cefnogi cyflogaeth a darparwyr hyfforddiant lleol y sgiliau sector y mae eu hangen ar gwmnïau sy'n tyfu neu'r rhai sy'n symud i Abertawe ac ardaloedd eraill yng Nghymru. Mae defnyddio mwy o fforymau rhwydweithio, cydweithio rhwng asiantaethau cefnogi cyflogaeth, ailadeiladu a chryfhau cysylltiadau llywodraeth leol a Chymru â busnesau yn hanfodol i feithrin deallusrwydd o ran bylchau a diffyg sgiliau yn y sectorau, sy'n gysylltiedig â chyfleoedd swyddi sydd ar ddod.

 

2.2. Mae rhaglenni cyflogadwyedd lleol megis Cymunedau am Waith a Gweithffyrdd+ yn enghreifftiau o hyn, lle'r ydym yn meithrin deallusrwydd busnes drwy ein swyddogaeth Cysylltu â Chyflogwyr, fel y gall cyngor cynnar ar feysydd twf posib helpu i sicrhau bod y sawl sy'n anweithgar yn economaidd ac yn ddi-waith yn cael eu hannog i ddatblygu'r sgiliau cywir i'w rhoi ar lwybrau cyflogaeth cadarnhaol.  Bydd hyn yn eu galluogi i ymgysylltu â'r amrywiaeth llawn o gyfleoedd swyddi o'r rhai mwyaf sylfaenol i swyddi gwerth ychwanegol uwch mewn sectorau twf yn y dyfodol ac elwa o'r mentrau adfywio sylweddol sydd ar y gorwel.

 

2.3 Mae'r defnydd o brosesau caffael a datblygu fel offerynnau i ddod â phobl sy'n anweithgar yn economaidd ac yn ddi-waith yn ôl i'r gweithlu gan ddefnyddio cymalau budd cymunedol mewn contractau caffael ac mewn adnoddau lleol yn caniatáu targedu cyfleoedd at bobl mewn angen.  Mae cynllun arobryn Abertawe, sef y Tu Hwnt i Frics a Morter, yn enghraifft o arfer da yn yr ardal hon. Gyda Bargen Ddinesig Dinas Abertawe bellach wedi'i chytuno, byddai ffocws cryf ar gyflwyno cynlluniau creu swyddi sylweddol drwy fodel 'Abertawe'n Gweithio'.  Dyma ymagwedd gynhwysfawr, a arweinir mewn partneriaeth i greu lleoliadau profiad gwaith, hyfforddeieithau a phrentisiaethau o safon, gan gefnogi sectorau â swyddi gwag anodd eu llenwi megis gofal cymdeithasol ac iechyd, manwerthu a lletygarwch ynghyd â chyfleoedd am dwf drwy fuddsoddi mewn tai, iechyd a thechnoleg ddigidol. 

 

3.   Rhyngweithio â Rhaglen Gwaith ac Iechyd Llywodraeth y DU

 

3.1 Oherwydd ehangder y rhwystrau iechyd i unigolion yng Nghymru, roeddem yn siomedig gyda'r llif cleientiaid posib a ragfynegwyd ar gyfer y Rhaglen Gwaith ac Iechyd.  Bydd hyn yn rhoi pwyslais cynyddol ar ddarpariaeth leol i feddwl am ffyrdd arloesol o gefnogi'r sawl â chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio.

 

3.2 Dylai datganoli'r Rhaglen Gwaith ac Iechyd i Gymru helpu i alluogi cysylltiadau gwaith agosach â darpariaeth arall yn lleol, gan gefnogi darpariaethau cyflogadwyedd eraill prif ffrwd ac a ariennir gan yr UE i weithio i gefnogi'r fenter hon, a dylai helpu i sicrhau bod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir sy'n canolbwyntio ar y person sydd wedi'i theilwra i'w hanghenion er mwyn cael mynediad i gyflogaeth gynaliadwy.

 

3.3 Mae gweithio ar y cyd a rhannu data rhwng darpariaeth AGPh, Llywodraeth Cymru, y Llywodraeth Leol a'r Trydydd Sector yn hanfodol i sicrhau na cheir unrhyw ddyblygu rhwng darparwyr cefnogaeth, nad oes unrhyw fylchau mewn darpariaeth a bod pobl yn cael pob cyfle i ddefnyddio gwasanaethau cefnogi.  Dylai darparwyr lleol gael eu hannog i fwyafu'r defnydd o ddarpariaeth brif ffrwd cyn ymyrryd ymhellach.

 

4. Lleihau cyfran y bobl yng Nghymru sydd ar incwm isel; ac        

    

4.1 Mae angen canolbwyntio ar gymwysterau a sgiliau addysgol oherwydd bod hyn yn sylfaenol i wella perfformiad, ysbryd cystadleuol a lefelau cyflog sydd, yn y pen draw, yn codi ffyniant i bawb.  Yn y pen draw, sgiliau yw'r allwedd i waith. Mae darpariaeth sgiliau'r gweithlu'n gofyn am fwy o gysondeb â chyfleoedd strategol sectorau er mwyn sicrhau bod myfyrwyr a gweithwyr yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, gan feddu ar y sgiliau a'r profiadau cywir i ddatblygu drwy gyfleoedd y farchnad lafur.

 

4.2 Mae angen ar hyn o bryd i ni ganolbwyntio ar sgiliau digidol i fanteisio ar y sector hwn sy'n datblygu'n gyflym yn Abertawe.  Yn ogystal, mae angen cefnogaeth ar gyfer sectorau allweddol megis iechyd a gofal cymdeithasol o ran cynyddu swm y ddarpariaeth. 

 

4.3 Mae addysg fenter hefyd yn bwysig i gynnwys sgiliau arweinyddiaeth ac entrepreneuraidd yn y system addysg i ddatblygu ein cenhedlaeth nesaf o bobl fusnes.

 

4.4. Mae hefyd yn bwysig bod cyngor gyrfaoedd ar gael i bob oedran fel bod y rhai sydd am fynd i'r farchnad lafur sydd naill ai'n cael eu tangyflogi neu eu 'cyflogi'n dlawd' yn gallu cael y gefnogaeth angenrheidiol i'w helpu i ddilyn llwybr gyrfa neu lwybr cynnydd. Yma mae angen i asiantaethau cefnogi cyflogaeth fod yn llai cyfyngol o ran y math o grŵp cleient maent yn ei dargedu a'i gefnogi, a chydweithio mwy. Yr allwedd i hyn yw rhyngweithio gwell rhwng Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill megis yr AGPh, Gyrfa Cymru a'r Awdurdod Lleol, gan gynnwys protocolau rhannu data addas.

 

5. Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd rhwng grwpiau gwahanol o bobl

 

5.1 Mae angen i'r strategaeth economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd gynnwys camau gweithredu i sicrhau bod pobl, yn enwedig y rheiny o ardaloedd mwy difreintiedig, yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth a gynigir drwy roi'r sgiliau marchnad lafur cywir iddynt. 

 

5.2 Mae cefnogaeth i fynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth megis opsiynau cludiant effeithiol a gofal plant priodol hefyd yn hanfodol i gael mynediad i gyfleoedd gwaith. Mae addysg fenter hefyd yn bwysig ac felly bydd gwreiddio sgiliau arweinyddiaeth ac entrepreneuraidd yn y system addysg yn helpu i ddatblygu ein cenhedlaeth newydd o bobl fusnes. Mae'n werth tynnu sylw yma at y ffaith bod asesiad lles hen Fwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe wedi cydnabod mai'r prif rwystrau i gyflogaeth yn Abertawe yw diffyg gofal plant, cludiant sgiliau a phrofiad.

 

6. Archwilio sectorau cyflog isel a mesurau i wella cyflog gweithwyr cyflog isel megis y cyflog byw

 

6.1 Mae cyflogwyr mawr a chanolig eu maint yn allweddol i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe o ran creu swyddi a chyfleoedd am dwf economaidd. Rhaid i ni weithio i ddatblygu arbenigedd sector i wella mantais gystadleuol i gefnogi datblygu busnesau a chreu swyddi. Yn gysylltiedig â hyn, mae angen cyngor a mentora busnes i wella datblygiad y gweithlu er mwyn creu cyfleoedd yn y gweithle i wella sgiliau'r gweithlu SME a chaniatáu cyfleoedd i staff ddatblygu.

 

6.2 Mae angen targedu a chefnogi sectorau twf allweddol i ddarparu cefnogaeth yn y gweithle, gan alluogi cynllunio olyniaeth.  Dylai gwaith gael ei annog ar draws sectorau cyflog isel megis gofal, manwerthu a lletygarwch i annog datblygu sgiliau mewnol, cadw staff drwy gyfraddau cyflog traws-sector (lleihau dwyn staff) ac o ganlyniad, gyfraddau cyflog gwell.

 

7. Darparu ffyrdd o wella diogelwch swyddi yng Nghymru

 

7.1 Er mwyn cynyddu diogelwch y gweithlu yng Nghymru, yn gyntaf mae'n rhaid cadw cyflogwyr allweddol yn lleol a'u cefnogi i fod yn seiliedig yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe ac yn ymrwymedig iddo (neu'r rhan o Gymru maent yn gweithio ynddi). Mae cryfhau cysylltiadau ag SME a chyflogwyr allweddol yn y ddinas yn hanfodol i feithrin deallusrwydd lleol o ran bylchau mewn sgiliau a chyfleoedd i ddatblygu'r gweithlu, er mwyn sicrhau bod AB, AU a darparwyr hyfforddiant eraill yn sefydlu darpariaeth yn unol ag anghenion y farchnad lafur.  Mae gan Bartneriaethau Dysgu Rhanbarthol rôl allweddol i'w chwarae yma.  Yn y pen draw, mae angen darpariaeth arnom sy'n cefnogi cyflogwyr i sicrhau bod ganddynt fynediad i gronfa ddoniau addas.  Mae rhannau o'r Dinas-ranbarth yn atyniadol iawn i fusnesau.  Mae'n hanfodol ein bod yn hyrwyddo ac yn marchnata hyn yn eang i wella ein delwedd gyffredinol, ynghyd â gwella safleoedd ac isadeiledd cyflogaeth strategol allweddol i annog cwmnïau i ddod yma. Dylai gwaith gael ei annog ar draws sectorau cyflog isel megis gofal,  manwerthu a lletygarwch i annog datblygu sgiliau mewnol, cadw staff drwy gyfraddau cyflog traws-sector (lleihau dwyn staff) ac felly gwella cadw staff drwy amodau, sgiliau a chyfraddau cyflog gwell.

 

8. Nodi'r rôl y mae budd-daliadau lles yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ar gyflogau isel yng Nghymru.

 

8.1 Bydd angen budd-daliadau ar bobl yng Nghymru am byth.  Mae newidiadau i'r system fudd-daliadau'n cael effaith andwyol sylweddol ar oedolion diamddiffyn a'u teuluoedd.  Dylem weithio i annog 'isafswm safon byw', sy'n mwyafu ar y manteision i'r rhai y mae eu hangen arnynt a cheisio sicrhau y gallant fyw bywyd cyfforddus.  Ar yr un pryd, dylem gefnogi pobl lle maent yn gallu gweithio i gael mynediad i'r sgiliau a'r profiad y mae eu hangen arnynt i sicrhau gwaith.  Rhan allweddol o hyn yw bod yn rhaid i waith dalu i sicrhau y gall pobl ar incwm isel symud ymlaen.  Dylem hyrwyddo taliadau cyflog byw gan yr holl gyflogwyr.

 

8.2 Mae'r system fudd-daliadau'n fwyfwy cymhleth, yn anodd ei deall ac yn annigonol. Mae gwasanaeth Hawliau Lles Dinas a Sir Abertawe a phartneriaid Cyngor ar Bopeth, Age Cymru a darparwyr tai cymdeithasol yn adrodd y canlynol:

 

-          Mae sesiynau cyngor Hawliau Lles yn orlawn, gydag ymholiadau mwy cymhleth yn codi ac ymholiadau na ellir mynd i'r afael â hwy yn ystod y sesiwn.

-          Mae cynrychiolaeth mewn apeliadau'n annigonol; mae angen cymorth ar fwy o bobl na'r gallu i'w helpu.

-          Mae newidiadau o'r Lwfans Byw i'r Anabl i PIP/ESA (Lwfans Cefnogaeth Cyflogaeth) yn creu llwythi gwaith syfrdanol. Mae adolygiadau'n fynych ac mae'r broses gwneud penderfyniadau'n wael. Mae pobl sy'n hawlio'n aml yn ansicr am sut mae'r meini prawf a'r asesiadau'n gweithio.

-          Mae prosesau gwneud penderfyniadau gwael yn gostus, yn niweidiol ac yn broblem barhaus: yn genedlaethol, mae 65% o benderfyniadau PIP yn cael eu gwrthdroi mewn apêl. Yn Abertawe, mae gan wasanaeth Hawliau Lles y cyngor gyfradd lwyddiant o 91% mewn apeliadau (y cyfanswm ar gyfer yr holl fudd-daliadau).

-          Mae Ymgynghorwyr Hawliau Lles y cyngor wedi nodi 25 o bobl ag anableddau dwys a allai fod yn derbyn llai na'u hawliau llawn. Ychydig iawn sydd wedi ymateb i gynnig uniongyrchol (yn ysgrifenedig) am gefnogaeth i archwilio a chywiro hyn. Mae angen mwy o ymchwilio i ganfod rhwystrau pobl i gael mynediad i'r gefnogaeth hon wrth sylweddoli eu hawliau llawn.

-          Mae pobl ifanc dan 25 oed sy'n derbyn Credyd Cynhwysol mewn sefyllfa ariannol anodd. Ni all pobl â chyllidebau bychain iawn ddod â dau ben llinyn ynghyd.

-          Oherwydd bod hawlwyr eisoes yn isel iawn dan y llinell dlodi, mae cosb yn creu sefyllfa anobeithiol. Mae nifer y bobl sy'n derbyn cosb a nifer y cosbau a gyflwynir yn disgyn, ond mae angen anelu at ddim. Mae'r anghydfod rhwng y ffigurau hyn yn dweud wrthym fod rhai pobl yn derbyn sawl cosb.

-          Mae astudiaethau achos o amrywiaeth o sefydliadau'n dangos lle mae diwygio lles wedi lleihau incwm a'r goblygiadau dilynol a'r angen am gyngor ar ddyled.